SS Samtampa
| Enghraifft o: | llong |
|---|---|
![]() | |
| Gwneuthurwr | New England Shipbuilding Corporation |
| Dynodwyr | |
Llong stêm 7,219 tunnell oedd yr SS Samtampa. Fe'i cafodd ei dryllio ar 23 Ebrill 1947 ar Drwyn y Sger, ar yr arfordir rhwng Porthcawl a Chynffig, Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Sir Forgannwg bryd hynny).
Llong ryddid oedd y Samtampa a adeiladwyd yn South Portland, Maine, Unol Daleithiau America, yn ystod yr Ail Ryfel Byd a lansiwyd ar 12 Rhagfyr 1943 o dan yr enw SS Peleg Wadsworth. Anfonwyd y llong i'r Deyrnas Unedig o dan y cynllun Les-Fenthyg, cafodd ei hailenwi, a'i rheoli gan y Houlder Line ar ran y Weinyddiaeth Drafnidiaeth Ryfel.
Roedd y llong wedi hwylio o Middlesbrough, Gogledd-ddwyrain Lloegr, tuag at Gasnewydd gyda chriw o 39, y rhan fwyaf ohonynt yn dod o ardal Teesside. Yn ystod storm 70 mya ar noson 23 Ebrill 1947, aeth y llong i loches oddi ar arfordir De Cymru, ond torrodd yn rhydd o'i cheblau angor a rhedeg i'r lan. Daeth Bad Achub y Mwmbwls i’w chynorthwyo, ond roedd yr amgylchiadau mor enbyd nes i holl griw yr Samtampa farw, ynghyd â phob un o’r wyth aelod o griw’r bad achub, gan arwain at golli 47 o fywydau.[1]
Claddwyd cyrff yr wyth o ddynion y bad achub ym Mynwent Ystumllwynarth, Abertawe. Mae cofeb i feirwon y trychineb ym Mynwent Porthcawl ac mae plac coffa i orffwysfa olaf bad achub y Mwmbwls ar Drwyn y Sger.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Samtampa", Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; adalwyd 24 Gorffennaf 2026
- ↑ "Tribute for 1947 Mumbles disaster", BBC News, 23 Ebrill 2007; adalwyd 24 Gorffennaf 2026
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Bad Achub y Mwmbwls a Llongddrylliad yr SS Samtampa", Casgliad y Werin Cymru
