Neidio i'r cynnwys

Capel Madog

Oddi ar Wicipedia
Capel Madog
Mathendid tiriogaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.41928°N 3.98655°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN6582 Edit this on Wikidata
Map

Pentrefan yng nghymuned Trefeurig yng nghanolbarth Ceredigion yw Capel Madog, rhan o blwyf hanesyddol Parsel Canol.[1] Mae'r pentref yn dwyn ei enw o'r capel anghydffurfiol lleol, er bod yr elfen Madog yn hŷn na'r capel ac yn ymddangos yn sawl un o enwau ffermydd yr ardal.

Mae Capel Madog yn nalgylch papur bro Y Tincer.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Afon Peithyll ar ei ffordd drwy Gapel Madog

Mae Capel Madog wedi'i leoli yng Nghwm Main (enw arall ar yr ardal ar lafar[2]), rhwng Capel Dewi wrth enau'r cwm a Bancydarren ar ei frig. Cwyd y cwm o'r gorllewin i'r dwyrain gan esgyn o tua 200 troedfedd i 600 troedfedd uwch lefel y môr. Aberystwyth yw'r dref farchnad agosaf.

Llifa Afon Peithyll drwy Gapel Madog ar ei ffordd at Afon Clarach. Mae llethrau serth a choediog collddail yn dilyn gwaelodion Peithyll, a chaeau agored uwchben lle mae defaid, da godro, a Gwartheg Duon Cymreig yn pori. Mae barcutiaid cochion yn nythu ar hyd glannau'r afon.

Ffermydd yw'r rhan fwyaf o gartrefi'r pentref. Y capel yw'r unig adeilad cyhoeddus.

"Yr Hen Gastell" - olion castellyn Normanaidd Castell Peithyll

Mae bryngaer Geltaidd o Oes yr Haearn ar fynydd y Darren uwch y pentref, a Pen Ringsen yn enw lleol arni.[3][4] O'r oes Rufeinig hyd ddiwedd y 19eg ganrif cloddiwyd am blwm, arian a chopr yn yr ardal, gyda olion mwyngloddfeydd i'w gweld gerllaw ym Mancydarren.[5]

Saif olion castell mwnt a beili canoloesol Castell Peithyll yng nghanol Capel Madog, ger y bont sy'n croesi Afon Peithyll yng ngwaelodion y cwm. Mae enw'r bont - Pont Rhyd-domen - yn cyfeirio at y castell sy'n ddim mwy na thwmpath a ffos goediog erbyn hyn.[2]

Mae map ystad o 1788 yn dangos clytwaith o ffermydd gwasgaredig a chaeau bychain afreolaidd eu siâp,[6] a prin yw'r newid yn hynny hyd heddiw.

Yn y 1750au bu'r llenor a hynafieithydd Lewis Morris, un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymmrodorion, yn byw yn ffermdy Allt-fadog tra'n Swyddog y Goron dros fwynfeydd plwm y fro.[7]

Ers dros ganrif bu plant y pentref yn teithio i Ysgol Gynradd Trefeurig a agorodd ym 1875, ond caewyd yr ysgol honno yn 2006. Ysgol Penrhyn-coch sy'n gwasanaethu'r ardal heddiw.[8]

Mae capel Methodist Calfinaidd Capel Madog yn rhan o ofalaeth Y Garn (Bow Street) ac yn cynnal gwasanaethau rheolaidd.[9] Adeiladwyd y capel yn y 19eg ganrif[6] ac mae iddi fynwent[10] a thŷ capel. Rhannwyd y fynwent yn wreiddiol gyda Chapel Presbyteraidd Capel Dewi tan datgorffori'r capel hwnnw ym 1991.[11]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Capel Madog - Enw a Gofnodwyd - Enwau Lleoedd Hanesyddol". enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk. Cyrchwyd 2026-07-16.
  2. 1 2 "Colofn Trefeurig". Y Tincer 98: 7. Ebrill 1987. https://trefeurig.cymru/wp-content/uploads/2026/06/1987-04_ytincer_098.pdf.
  3. Fychan, Angharad (Ionawr 2022). "Enwau lleoedd". Y Tincer 445: 18. https://trefeurig.cymru/wp-content/uploads/2022/02/tincerionawr22.pdf.
  4. "BBC - Hanes Cwmrheidol a'r cyffiniau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2026-07-16.
  5. "The Darren Mines". Northern Mine Research Society (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-16.
  6. 1 2 "Archaeology in Wales - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed - Dyfed Archaeological Trust". heneb.org.uk. Cyrchwyd 2026-07-16.
  7. "Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf)/Marwnad Lewis Morris - Wicidestun". cy.wikisource.org. Cyrchwyd 2026-07-16.
  8. "Ein Cymuned". FFederaliaeth Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn. Cyrchwyd 2026-07-16.
  9. "Capel Madog | Eglwys Bresbyteraidd Cymru". www.ebcpcw.cymru. Cyrchwyd 2026-07-16.
  10. "Capel Madog Methodist Chapelyard". Commonwealth war graves commission. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2026.
  11. "Capel Madog". Trefeurig. 2020-11-05. Cyrchwyd 2026-07-16.